Cartonau Bwyd a Diod
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Cartonau Bwyd a Diod mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Pa gartonau bwyd a diod y gellir eu hailgylchu?
Rinsiwch gartonau gwag a chynwysyddion Tetra Pak ar gyfer diodydd cyn eu rhoi allan i’w hailgylchu. Cewch adael unrhyw gaeadau plastig arnynt ac unrhyw wellt yfed ynddynt hefyd; bydd y rhain yn cael eu tynnu a’u hailgylchu ar ôl cael eu casglu;
Rinsiwch gartonau gwag a chynwysyddion Tetra Pak ar gyfer bwydydd fel cawl cyn eu rhoi allan i’w hailgylchu;
Ni ellir ailgylchu pecynnau coffi ar hyn o bryd a dylid eu rhoi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Mae’n dda gwybod
Gellir ailgylchu pecynnau bwyd a diodydd plastig wedi’u lamineiddio, fel codenni bwyd babanod, bwyd anifeiliaid anwes a hylif golchi gyda bagiau a deunyddiau lapio plastig gan rai manwerthwyr.
Dysgwch fwy: Pecynnau bwyd a diod.