Cardbord
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Cardbord mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Pa eitemau cardbord y gellir eu hailgylchu?
Bocsys cardbord e.e. grawnfwyd, tabledi peiriant golchi llestri, bocsys wyau;
Cardbord rhychiog, gyda’r tâp, a darnau polystyren a phlastig wedi’u tynnu;
Cardiau cyfarch heb lwch llachar na batris ynddynt;
Bocsys nwyddau danfoniadau ar-lein, ac amlenni cardbord;
Tiwbiau papur toiled a phapur cegin – gellir compostio’r rhain gartref hefyd;
Catalogau.
Pa eitemau cardbord na ellir eu hailgylchu?
Cardbord sy’n cynnwys bwydydd, baw neu baent;
Cartonau bwyd a diod
Cardiau cyfarch sydd â llwch llachar arnynt.