Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Rydym yn herio plant 5 i 11 mlwydd oed yng Nghymru i anfon poster rysáit i ni sy’n ysbrydoli eu teuluoedd i gael y gwerth gorau o’u bwyd! Defnyddiwch y ffurflen isod i gyflwyno gwaith eich plentyn i roi cynnig ar y gystadleuaeth erbyn 30 Ebrill 2024.
Nid oes rhaid ichi wneud hyn, ond os gwnaeth eich plentyn roi cynnig ar y rysetiau go iawn, buasem wrth ein boddau’n gweld ffotograff o’u creadigaeth hefyd! Tagiwch @WalesRecycles a defnyddiwch yr hashnod #ByddWychAilgylcha neu #BeMightyRecycle.
Bydd y cynigion yn cael eu rhannu ar wefan Cymru yn Ailgylchu. Gallwch ddod o hyd i’r Telerau ac Amodau yma.
Angen ysbrydoliaeth? Ewch i bori ein tudalen “5 Pryd Gwych”.
Yr hyn y gallech ei ennill
Bydd y rysáit fuddugol yn ennill hamper bwyd wedi’i deilwra’n bersonol i deulu’r plentyn, a gwerth £50 o lyfrau i’w hysgol!
Sut i roi cynnig ar y gystadleuaeth
Gall plant a’u teuluoedd gymryd rhan mewn cystadleuaeth drwy gyflwyno poster rysáit o’u pryd bwyd wedi’i wneud o’r bwyd sydd ganddynt eisoes yn eu hoergell gartref.
Caiff rhieni neu ofalwyr ddefnyddio’r ffurflen gais isod i anfon ffotograffau neu sganiau o bosteri a/neu ffotograffau rysetiau’r plant.
Fel arall, gallwch anfon ceisiadau drwy ebost at walesrecycles@wrap.org.uk.
Ynglŷn â’r Ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych
Wyddoch chi mai Cymru yw un o’r cenhedloedd gorau yn y byd am ailgylchu? Mae hyn yn wych, ond bwyd yw cynnwys chwarter y bin sbwriel cyfartalog o hyd, sy’n costio £83 y mis i’r teulu cyfartalog.
Drwy’r Ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych mae disgyblion wedi dysgu sut gallwn ddefnyddio bwydydd a gaiff eu gwastraffu’n aml – fel tatws, llysiau a chyw iâr – mewn prydau bwyd sydyn a hawdd i’r teulu, gan ailgylchu’r eitemau bwyd na ellir eu bwyta i helpu creu ynni adnewyddadwy.
I ddarganfod tips gwych Cymru yn Ailgylchu, sut caiff gwastraff bwyd ei ailgylchu i greu ynni, neu i archebu cadi, ewch i’n tudalen Bydd Wych. Ailgylcha.