Pam ailgylchu gwastraff o’r ardd?
Caiff gwastraff o’r ardd ei gasglu gan eich cyngor lleol naill ai’n wythnosol neu bob pythefnos ac fe’i defnyddir i gompostio. Mae llawer ohonom yn ailgylchu ein gwastraff o’r ardd gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, oni bai ein bod yn compostio gartref. Gwiriwch pa gasgliadau gwastraff o’r ardd sydd ar gael yn eich ardal chi.
Sut caiff gwastraff o’r ardd ei ailgylchu?
Ar ôl iddo gael ei gasglu, caiff gwastraff o’r ardd ei gludo i safle compostio ble caiff ei rwygo’n fân a’i osod allan mewn pentwr hir o’r enw rhes gompost i bydru’n gompost.
Caiff rhesi compost eu troi o bryd i’w gilydd i ganiatáu i fwy o ocsigen gyrraedd y cymysgedd, sy’n annog bacteria a ffwng a elwir yn ‘ficro-organebau’ dyfu, sy’n cyflymu’r broses gompostio.
Yn ystod yr amser hwn, mae’r gwastraff yn cyrraedd tymheredd o tua 60 gradd Celsius, sy’n lladd unrhyw bathogenau niweidiol, chwyn a heintiau planhigion.
Unwaith bydd y cymysgedd wedi torri i lawr yn llwyr, caiff y compost ei ddefnyddio gan ffermwyr a thyfwyr i gynhyrchu bwyd, a hefyd mewn parciau a gerddi cyhoeddus.
Os nad ydyn ni’n ailgylchu ein gwastraff o’r ardd, caiff ei botensial ei golli am byth.
Sut caiff ei ddefnyddio?
Pan fyddwn yn ailgylchu ein gwastraff o’r ardd, gellir ei droi’n gompost a gall cartrefi, ffermwyr a thyfwyr ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd, yn lle defnyddio gwrteithiau mawn neu artiffisial.
Sut i ailgylchu gwastraff o’r ardd gartref
Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o fathau o wastraff o’r ardd, yn cynnwys rhisgl, blodau, torion glaswellt a llwyni, dail, planhigion, canghennau bach, brigau a chwyn;
Os yw’n bosibl, ystyriwch sefydlu bin compost i ailgylchu eich gwastraff o’r ardd gartref;
Os na allwch chi gompostio gartref, gallwch fynd ag ef i’ch man ailgylchu gwastraff o’r ardd lleol neu ddefnyddio eich gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd. Holwch eich cyngor lleol i weld a allwch ailgylchu gwastraff o’r ardd yn lleol;
Er bod gan safleoedd compostio fesurau ar waith i dynnu halogiad, mae’n bwysig eich bod yn atal cymaint â phosibl o blastigion a cherrig mawr rhag mynd yn y gwastraff o’r ardd a gesglir i’w gompostio, er mwyn sicrhau cynnyrch o safon;
Mae’n bwysig hefyd nad yw torion glaswellt ble cafodd chwynladdwyr eu defnyddio yn cael eu rhoi allan i’w hailgylchu gyda gwastraff o’r ardd;
Defnyddir compostio rhesi compost awyr agored ar gyfer deunyddiau gwastraff o’r ardd yn unig ar y cyfan. Ni ddylid rhoi gwastraffau arlwyo neu wastraffau anifeiliaid yn eich bin gwastraff o’r ardd.