Egluro halogiad
Mae’n bwysig inni roi ein gwastraff yn y cynwysyddion ailgylchu cywir. Pan fyddwn ni’n gwneud hyn yn anghywir, ac yn ‘halogi’ ein hailgylchu gydag eitemau na ellir eu hailgylchu neu sy’n anodd eu hailgylchu, mae’n lleihau ansawdd cyffredinol yr ailgylchu rydyn ni’n ei roi allan i’w gasglu. Golyga hyn fod ein cynghorau lleol yn llai tebygol o allu gwerthu ein hailgylchu i fusnesau sydd angen deunyddiau o ansawdd dda i greu nwyddau newydd, a chaiff potensial ein hailgylchu ei golli am byth.
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwneud yn gywir ac yn rhoi’r eitemau iawn yn y cynwysyddion ailgylchu cywir, ond ceir rhestr isod o’r camgymeriadau mwyaf cyffredin y mae pobl yn eu gwneud wrth ailgylchu o gartref. Ni ellir ailgylchu’r eitemau hyn o gartref; rhowch nhw yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, os gwelwch yn dda.
Gwastraff anifeiliaid;
Gwastraff profion COVID-19, yn cynnwys cetris / dyfeisiau profion llif unffordd;
PPE sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys masgiau wyneb;
Cewynnau tafladwy;
Tâp gludiog;
llestri coginio gwydr, Pyrex a llestri ffwrn, gwydrau yfed, jariau canhwyllau ac eitemau ceramig;
Gwydr fflat a chwareli ffenestri;
Hancesi papur, weips gwlyb, bydiau cotwm a gwlân cotwm;
Cambrenni dillad;
Pecynnau ‘codenni’ bwyd a diodydd meddal;
Caeadau plastig ystwyth;
Teganau plastig;
Tiwbiau past dannedd.
Cyngor ar gyfer osgoi halogi eich ailgylchu
Gwiriwch ar ein hadnodd Lleolydd Ailgylchu i weld beth y gallwch ei ailgylchu gartref;
Ewch draw i’n tudalennau Ailgylchu Eitem i wirio sut i ailgylchu eitemau’r ydych yn ansicr yn eu cylch;
Gweler gwefan eich cyngor lleol am gyfarwyddiadau ar sut i ailgylchu eitemau penodol, er enghraifft, a ddylech adael caeadau ar boteli neu jariau ynteu eu tynnu i ffwrdd cyn eu hailgylchu.
Darganfod beth y gallwch ei ailgylchu gartref
10 eitem o'r cartref sy'n aml yn cael eu rhoi yn y bin anghywir
Jariau ar gyfer canhwyllau
Ydych chi am gael gwared ar jar gwag neu hen jar gwydr oedd yn arfer dal cannwyll? Os felly, rhowch hwn yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, ac nid gyda’ch poteli a jariau gwydr i’w hailgylchu.
Mae’r math o wydr a ddefnyddir ar gyfer canhwyllau – fel rhai Yankee Candles – angen ei doddi ar dymheredd llawer uwch na thymheredd toddi poteli a jariau cyffredin, fel y rhai a ddefnyddir ar gyfer bwyd a diod. Mae hyn yn golygu na ellir prosesu gwydr canhwyllau gyda’ch poteli a jariau gwydr.
Lapiwch nhw’n ddiogel mewn hen bapur newydd neu bapur cegin, neu eu bagio’n ddwbl, i sicrhau nad yw ein criwiau casglu’n cael eu niweidio wrth eu casglu.
Eitemau ceramig
Wyddoch chi na ellir ailgylchu eitemau ceramig – fel dysglau, cwpanau, jygiau, platiau a fasau – yn yr un ffordd â photeli a jariau gwydr cyffredin, fel y rhai a ddefnyddir ar gyfer bwyd a diod?
Os oes angen ichi gael gwared ar unrhyw eitemau ceramig sydd wedi torri, rhowch nhw yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Lapiwch nhw’n ddiogel mewn hen bapur newydd neu bapur cegin, neu eu bagio’n ddwbl, i sicrhau nad yw ein criwiau casglu’n cael eu niweidio wrth eu casglu.
Gallwch hefyd fynd ag eitemau ceramig wedi torri i’ch canolfan ailgylchu leol.
Os nad yw’ch eitemau ceramig wedi torri – a’ch bod yn cael gwared arnynt am nad oes eu hangen neu eu heisiau mwyach – beth am fynd â nhw i siop elusen i rywun arall gael eu defnyddio?
Cambrenni dillad
Os oes gennych chi gambrenni dillad neu gotiau wedi torri – boed y rheiny’n rhai metel, plastig neu bren – ewch â nhw i’ch canolfan ailgylchu leol.
Os oes gennych chi gambrenni dillad nad oes eu hangen arnoch mwyach a’u bod mewn cyflwr da, da chi:
cynigiwch nhw i’ch teulu a ffrindiau;
rhestrwch nhw ar wefan neu grŵp lleol ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer rhannu pethau am ddim;
cysylltwch â’ch siop elusen leol, efallai y byddan nhw eu heisiau; neu
ceisiwch eu dychwelyd i’r siop y gwnaethoch brynu’r dilledyn ynddi, efallai y byddan nhw’n eu hailddefnyddio neu’n ailgylchu’r cambrenni ar eich rhan.
Gall cambrenni dillad ar gyfer plant bach fod yn anodd dod o hyd iddynt, felly mae’n bosib y gwelwch fod galw amdanynt ar grwpiau ar-lein ar gyfer rhieni a babanod.
Gwydr coginio
Ni ellir ailgylchu gwydr coginio, fel Pyrex, ar hyn o bryd.
Er mai math o wydr yw gwydr coginio Pyrex, mae wedi cael triniaeth arbennig yn ystod y broses gynhyrchu i wrthsefyll tymereddau uchel, sy’n golygu na ellir ei ailgylchu.
Os oes gennych wydr coginio Pyrex wedi torri neu wedi tolcio i gael gwared arno, peidiwch â’i roi i’w ailgylchu gyda’ch poteli a jariau gwydr. Lapiwch nhw’n ddiogel mewn hen bapur newydd neu bapur cegin, neu eu bagio’n ddwbl – i sicrhau nad yw ein criwiau casglu’n cael eu niweidio wrth eu casglu – yna rhowch hwn yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Gallwch hefyd fynd â gwydr coginio sydd wedi torri neu dolcio i’ch canolfan ailgylchu leol i gael ei ailgylchu gyda chraidd caled a rwbel, ac fe gaiff ei ddefnyddio fel deunyddiau adeiladu ar gyfer prosiectau adeiladu. Os nad yw eich gwydr coginio wedi torri – ac nad ydych ei eisiau neu ei angen mwyach – ystyriwch fynd ag ef i siop elusen leol i rywun arall gael ei ddefnyddio.
Gwydrau yfed
Rhowch unrhyw wydrau yfed sydd wedi torri yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, gan gofio eu lapio’n ddiogel yn gyntaf. Gallwch ddefnyddio hen bapur newydd neu bapur cegin, neu eu bagio’n ddwbl, i sicrhau nad yw ein criwiau casglu’n cael eu niweidio wrth eu casglu. Fel arall, gallwch ailgylchu gwydrau yfed sydd wedi torri yn eich canolfan ailgylchu leol gyda chraidd caled a rwbel, ac fe gaiff ei ddefnyddio fel deunyddiau adeiladu ar gyfer prosiectau adeiladu.
Mae rhai gwydrau diod na ellir eu hailgylchu drwy’r un broses a ddefnyddir ar gyfer poteli a jariau gwydr cyffredin, felly ni ellir eu casglu i gael eu hailgylchu gyda’i gilydd.
Os oes gennych chi unrhyw wydrau yfed nad ydych eu heisiau mwyach, ond eu bod mewn cyflwr da, beth am ystyried mynd â nhw i siop elusen leol i eraill gael elwa o’u defnyddio?
Gwydr fflat – fel ffenestri
Os oes angen ichi gael gwared ar unrhyw wydr fflat, fel cwarel ffenestr, ewch ag ef i’ch canolfan ailgylchu leol.
Mae’n debygol iawn y bydd gwydr fflat yn cynnwys eitemau na ellir ei ailgylchu. Ac mae’r eitemau gwydr fflat hynny y gellir eu hailgylchu yn debygol o fod angen cael eu toddi ar dymheredd gwahanol i boteli a jariau gwydr cyffredin, fel y rhai a gasglwn o’ch cartref.
Yn aml iawn, mae eitemau gwydr fflat wedi cael eu trin â chemegion neu haenau o sylweddau, ac mae llawer o fathau o wydr sgrin cerbydau yn cynnwys elfennau cynhesu, ac mae angen trin y rhain gan ddefnyddio prosesau gwaredu arbennig.
Pecynnau ffoil bwyd a diod
Rhowch unrhyw becynnau ffoil bwyd a diod yr ydych am gael gwared â nhw yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Mae’r pecynnau hyn yn cynnwys eitemau bwyd a diod fel coffi, bwyd babanod, reis microdon a bwyd anifeiliaid anwes.
Caiff y pecynnau hyn eu gwneud gan ddefnyddio cymysgedd o ddeunyddiau gwahanol, a allai gynnwys metel alwminiwm, ffibrau a phlastigion, ac mae hyn yn eu gwneud yn anodd eu hailgylchu ar hyn o bryd.
Caeadau ffilm plastig
Tynnwch unrhyw gaeadau ffilm plastig – oddi ar eitemau fel prydau parod – a’u rhoi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Ni ellir ailgylchu’r deunydd tenau hwn yn yr un modd â’ch poteli, potiau a thybiau plastig yr ydym yn eu casglu o’ch cartref fel rhan o’n gwasanaeth casglu ailgylchu wythnosol.
Mae hyn yn wir hefyd am unrhyw blastigion tenau eraill y gallech fod angen cael gwared arnynt, fel haenen lynu blastig, deunyddiau lapio bwyd wedi’i wneud o ffilm plastig, bagiau plastig llysiau o’r rhewgell a bagiau siopa plastig. Rhowch y rhain oll yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Teganau plastig
Caiff teganau plastig eu gwneud o ddeunydd a elwir yn ‘blastig caled’, ac ni ellir ailgylchu’r plastig hwn yn yr un modd â’ch poteli, tybiau a photiau plastig a gasglwn o’ch cartref fel rhan o’n gwasanaeth casglu ailgylchu wythnosol.
Ewch ag unrhyw deganau neu gemau plastig sydd wedi torri i’ch canolfan ailgylchu leol. Os oes gennych deganau neu gemau plastig sy’n gweithio’n iawn ac mewn cyflwr da, rhowch nhw i siop elusen neu i grŵp cymunedol lleol, os gwelwch yn dda.
Os yw eich teganau a gemau plastig y tu hwnt i’w hadfer, efallai bod modd ailgylchu rhai o’r cydrannau o hyd os tynnwch y tegan yn ddarnau. Mae hyn yn cynnwys batris a phecynnau batris o unedau rheoli o bell, a dylid tynnu ac ailgylchu’r rhain.
Tiwbiau past dannedd
Rhowch eich tiwbiau past dannedd gwag yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Yn aml, caiff tiwbiau past dannedd eu gwneud o wahanol fathau o blastigion, ynghyd â haen fetel, sy’n eu gwneud yn anodd eu hailgylchu ar hyn o bryd.