Ffeithiau ailgylchu am Gymru:
Cymru yw’r ail genedl orau yn y byd am ailgylchu;
Yng Nghymru, rydyn ni’n ailgylchu 65% o’n gwastraff;
Mae 94% ohonom yn ailgylchwyr rheolaidd yng Nghymru;
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ailgylchu 70% o’n gwastraff erbyn 2025 a bod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050;
I ddarganfod beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu ac i ble mae’n mynd, gallwch fynd draw i wefan Fy Ailgylchu Cymru, sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol iawn.
Ailgylchu bwyd:
Mae ailgylchu gwastraff bwyd yn helpu’n uniongyrchol gyda thaclo newid hinsawdd;
Mae’r rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru yn anfon eu gwastraff bwyd i gyfleuster prosesu arbennig ble caiff ei droi yn ynni adnewyddadwy;
Yr enw ar y broses o droi gwastraff bwyd yn ynni yw “treulio anaerobig”;
Mae POB cyngor yng Nghymru’n cynnig gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd lleol;
Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn ailgylchu eu gwastraff bwyd;
Gall ailgylchu 79 o fagiau te gynhyrchu digon o drydan i bweru sychwr gwallt am 10 munud;
Gall ailgylchu 1 croen banana greu digon o ynni i wefru 2 ffôn clyfar;
Gall llond cadi o wastraff bwyd gynhyrchu digon o drydan i bweru oergell am 18 awr.
Ailgylchu metel a gwydr:
Gellir ailgylchu gwydr a metel ill dau dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio;
Defnyddir tua 95% yn llai o ynni i wneud eitemau gwydr a metel o ddeunyddiau eilgylch o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘crai’;
Mae’r eitemau gwydr a metel y gellir eu hailgylchu o’r ystafell wely a’r ystafell ymolchi’n cynnwys poteli persawr/persawr eillio, diaroglydd, chwistrell gwallt ac erosolau gel eillio;
Mae ailgylchu 1 can diod gwag yn arbed digon o ynni i bweru cawod am fwy na 5 munud;
Gall ailgylchu 1 can erosol greu digon o ynni i bweru cawod am 8 munud;
Mae ailgylchu 1 botel win yn atal gwerth bron i 4,000 o geir o CO2 rhag mynd i’n hatmosffer.
Ailgylchu plastig:
Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o eitemau plastig a geir yn y cartref;
Mae’r poteli plastig y gellir eu hailgylchu o’r ystafell ymolchi’n cynnwys poteli sebon dwylo, sebon corff, siampŵ a chyflyrydd gwallt, poteli swigod bath a photeli hylif glanhau plastig;
Mae 90% o ddinasyddion Cymru’n ailgylchu eu poteli nwyddau ymolchi plastig. Mae 92% yn ailgylchu poteli diodydd plastig;
Mae’n cymryd 75% yn llai o ynni i wneud potel blastig o blastig eilgylch o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘crai’;
Mae ailgylchu un botel hylif glanhau blastig yn arbed digon o ynni i wefru 6 iPad;
Mae ailgylchu un botel siampŵ/cyflyrydd gwallt yn cynhyrchu digon o ynni i ferwi 2 degell;
Mae ailgylchu tair potel ddŵr 500ml yn cynhyrchu digon o ynni i bweru sychwr gwallt am 10 munud.
Ailgylchu cardfwrdd a phapur:
Mae 92% o bobl Cymru’n ailgylchu eu cardfwrdd;
Mae’r cardfwrdd y gellir ei ailgylchu o’r ystafell ymolchi’n cynnwys bocsys past dannedd, bocsys nwyddau ymolchi a thiwbiau papur toiled;
Mae 1 tiwb papur toiled wedi’i ailgylchu’n arbed digon o ynni i wefru eich ffôn clyfar ddwywaith.
BYDD WYCH. AILGYLCHA.