Peiriannau Torri Glaswellt
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae’n bosibl ailgylchu allweddi mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Sut i ailgylchu peiriannau torri glaswellt
Dylid mynd â pheiriannau torri glaswellt dieisiau neu rai sydd wedi torri i ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref a’u rhoi yn y cynhwysydd priodol, yn dibynnu ar fath y peiriant;
Gellir rhoi peiriannau torri glaswellt petrol yn y sgip metel sgrap i’w hailgylchu. Gwnewch yn siŵr fod y tanc petrol yn wag;
Mae peiriannau torri glaswellt sy’n cael eu gwthio fel arfer wedi’u gwneud o fetel a gellir eu rhoi yn y sgip metel sgrap i’w hailgylchu;
Os yw’r bin casglu glaswellt wedi’i wneud o blastig, dylid ei dynnu i ffwrdd yn gyntaf. Bydd staff y ganolfan ailgylchu’n gallu dweud ym mha gynhwysydd y dylech ei roi;
Mae peiriannau torri glaswellt trydanol yn perthyn i gategori Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (Waste Electrical and Electronic Equipment/WEEE) a dylid eu hailgylchu yn y ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref gydag eitemau trydanol eraill;
Os yw’r eitem mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn, efallai yr hoffech ei roi i elusen neu i grŵp cymunedol lleol.